
Gŵyl y Banc
Barry 'Archie' Jones yn trafod comedi newydd; Tom Jeffery yn swyno gyda'i unawdau piano a Wynne Melville Jones yn sôn am y Llwybr Llên. A warm welcome with Shân Cothi.
Mae cwmni teledu dyfeisgar wedi creu hanes darlledu trwy fod y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gwblhau ffilmio cyfres ddrama gomedi yn ystod y cyfnod clo, a hynny trwy greu swigen i'r cast a'r criw. Bu’n rhaid atal y gwaith cynhyrchu ar y gyfres gomedi newydd, Rybish, ym mis Mawrth ond llwyddodd Cwmni Da i greu cynllun wnaeth alluogi'r rhaglen i barhau i ffilmio. Cynhyrchydd ac awdur y gyfres, Barry "Archie" Jones, sy'n dweud mwy.
Dim ond 7 oed yw Tom Jeffery o Flaenau Ffestiniog ac mae o wedi llwyddo i swyno cynulleidfaoedd ar wefannau cymdeithasol efo'i ganeuon ar y piano. Mae wedi dysgu ei hun sut i chwarae ac mae'n perfformio darn gan un o hoff gyfansoddwyr Shân, sef Ludovico Einaudi. Cawn sgwrs hefyd efo tad Tom, sef Julien Jeffery.
Agorwyd y Llwybr Llên yn Llanfihangel Genau’r Glyn yng Ngheredigion gan T. James Jones (Jim Parc Nest) yn 2012. Ers hynny, oherwydd tywydd garw, mae’r llwybr wedi gorfod cau yn achlysurol, ac yn yr wythnosau diwethaf mae wedi ail-agor yn dilyn y difrod diweddaraf. Mae Wynne Melville Jones yn byw yn yr ardal, ac yn ymhelaethu ynglŷn â chefndir ac arwyddocâd y llwybr.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Brychan
Cylch O Gariad
- Can I Gymru 2011.
- 2.
-
Catsgam
Pan Oedd Y Byd Yn Fach
- Dwi Eisiau Bod.
- FFLACH.
- 2.
-
Cowbois Rhos Botwnnog
Lle'r Awn I Godi Hiraeth?
- IV.
- SBRIGYN YMBORTH.
- 1.
-
Yr Overtones
Ar Y Blaen
- Sesiwn Ar Gyfer C2.
-
Carwyn Ellis & Rio 18
Tywydd Hufen Iâ
- Joia!.
- Banana & Louie Records / Recordiau Agati.
-
Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr
Merch TÅ· Cyngor
- Hen Wlad Fy Nhadau.
- SAIN.
- 6.
-
Magi Tudur
Troi A Dod Yn Ôl
- PERTHYN.
- CRAIG.
- 2.
-
Wigwam
Mynd A Dod
- Coelcerth.
- Recordiau JigCal Records.
-
Côr Canna
Am Brydferthwch Daear Lawr
- Canna.
- SAIN.
- 1.
-
Heather Jones
Rwy'n Cofio Pryd
- Dawnsfeydd Gwerin.
- SAIN.
- 3.
Darllediad
- Llun 31 Awst 2020 11:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2