 
                
                        Mis Medi
Dathlwn Mis Medi gyda archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. Another visit to the Radio Cymru archive with John Hardy. Let's celebrate September!
Mae John Hardy yn dathlu a chofio Prif ddigwyddiadau mis Medi.
Mae sawl trychineb i gofio amdanynt: Dewi Llwyd sy'n darlledu drannoeth i ddigwyddiadau erchyll 9/11 yn Efrog Newydd tra bod Dr Clive James yn rhoi safbwynt llygad dyst o ddaeargryn angheuol Mecsico nol yn 1985.
Fe gollon ni sawl talent arbennig yn ystod mis Medi dros y blynyddoedd - o dalent gitâr Jimi Hendrix, mawredd opera Syr Geraint Evans a dylanwad amhrisiadwy Yr Esgob William Morgan. Maent yn cael eu cofio gyda hoffter a balchder yn y rhaglen yr wythnos hon.
Gwelodd mis Medi hefyd sawl digwyddiad hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol - fel ymgais i losgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Cawn yr hanes yng ngeiriau Lewis Valentine. A Medi 16eg yw diwrnod Owain Glyndŵr, felly pan godwyd cofeb iddo yna tasg Gerallt Lloyd Owen oedd dewis englyn haeddiannol i fynd ar y gofeb ... ond a oedd teilyngdod?
Roedd yna deilyngdod mewn steddfod dra gwahanol - Steddfod Butlins ym Mhwllheli. Roedd Stuart Jones yno, ac yn cofio'r hwyl!
O Bwllheli i Lundain, ac i Stryd Downing, cartref prif weinidogion Prydain ers 1735. Megan Lloyd George sy'n cofio ei hamser yno.
Un arall o drigolion Llundain oedd Jack The Ripper, enw a ddaeth yn enwog wrth iddo ymddangos mewn llythyr yn y wasg am y tro cyntaf yn Medi 1888. Lyn Ebenezer sy'n trafod yr hanes.
Ac i orffen, stori hyfryd am pan ddaeth Napoli i Fangor. Ar Fedi 5ed 1962 fe gurodd tîm pêl-droed Dinas Bangor dîm pêl-droed Napoli o 2 gôl i ddim mewn gem yn Farrar Road. John Ogwen, I.B. Griffith, Alun Mummery, Emyr Morgan Evans, ac Owen Griffith sy'n cofio.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  InjarocFfwnc Yw'r Pwnc - Halen Y Ddaear!!.
- Sain.
- 4.
 
- 
    ![]()  The Jimi Hendrix ExperienceFoxy Lady - Are You Experienced?.
- Polydor.
- 13.
 
- 
    ![]()  Syr Geraint EvansLe nozze di Figaro, K. 492, Act I: "Non più andra" 
- 
    ![]()  Paul Shane & The YellowcoatsHi-De-Hi (Holiday Rock) 
- 
    ![]()  Carole KingIt Might As Well Rain Until September - Heartbeat - Forever Yours.
- Sony.
 
- 
    ![]()  Earth, Wind & FireSeptember - Greatest Hits Of 1978 (Various Artis.
- Premier.
- 3.
 
- 
    ![]()  Green DayWake Me Up When September Ends - (CD Single).
- Reprise.
- 1.
 
- 
    ![]()  Steve EavesLleuad Medi 
- 
    ![]()  Heather JonesMedi A Ddaw - Enaid.
- SAIN.
- 1.
 
Darllediadau
- Sul 13 Medi 2020 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Mer 16 Medi 2020 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Sul 1 Medi 2024 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 2 Medi 2024 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
