Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Eurfyl a Tomos v Eleri ac Owain

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.

Tad a mab yw ein tîm cyntaf ni, Eurfyl a Tomos Lewis. Mae Eurfyl wedi gorffen gweithio ar ôl bron i 30 mlynedd gyda’r Urdd, a bellach yn brysurach nag erioed: yn gadeirydd papur Bro y Cardi Bach ac yn ysgrifennydd Capel Calfaria Login ymhlith dyletswyddau eraill. Ac os nad yw hynny’n ddigon mae’n ddilynwr brwd o’r Scarlets. Yn hynny o beth mae Tomos yn dilyn ei dad, ac yn chwarae rygbi i glwb Crymych. Mae wedi rhannu llwyfan gyda’r Welsh Whisperer pan yn gwneud stand up, a claim to fame Tomos yw bod Tecwyn Ifan a Dafydd Iwan wedi cysgu yn ei wely e - ond nid ar yr un pryd.

Yr ail dîm yw Eleri Roberts ac Owain Mconnachie. Mae Eleri newydd orffen ei gradd meistr yn y Gymraeg ac yn astudio i fod yn athrawes uwchradd. O ochrau Llanbed mae Owain yn dod, a'i waith o ddydd i ddydd i'w gosod a thrwsio parlyrau godro ar ffermydd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 15 Ebr 2021 18:00

Darllediad

  • Iau 15 Ebr 2021 18:00