Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Codi Gwên

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Be sy' neud i chi chwerthin? Dyna yw nod y rhaglen wrth i John Hardy drio codi gwên wrth bori drwy'r archif. Mi fydd Tegwyn Jones a Hywel Roberts yn chwarae efo'r geiriau mwys ar y gêm banel Dros Ben Llestri ac mi fydd criw Pen Llŷn a Maldwyn yn trafod be 'di rhamant.

Islwyn 'Gus' Jones yn cael tasg i esbonio'r enw Craig Bron Banog sef hanes Llywelyn Ddannedd Hirion, y cwningod a'r ffuret oddi ar y rhaglen Malu ar yr Awyr yn 1984. Mae'r gân Chwarae Troi'n Chwerw yn un o glasuron yr iaith Gymraeg, ond fersiwn go wahanol sy' gan Caryl Parry Jones ar ein cyfer. Mae'r chwarae wedi hen droi'n chwerw gan y Dyn Sali'r Dyn Sâl a'i rychau sy'n ei boeni y tro yma.

Wrth recordio'r gemau panel ar leoliad, mae'r panelwyr fel arfer yn cynhesu'r gynulleidfa wrth rannu ambell i jôc a thro Geraint Lovgreen, Tony 'Bach' Llywelyn, Myrddin ap Dafydd ac Ifan Gruffydd oedd hi wrth recordio Dros Ben Llestri! Yr actores a'r gantores Gillian Elisa sy’n rhannu stori ddoniol am ei 'phearls' a sôn am berlau, orig fach yng nghwmni neb llai na'r Athro Hywel Teifi Edwards wrth iddo gofio am ei ddyddiau pêl-droed yng ngorllewin Cymru.

Criw Cwmni Theatr Gorllewin Morgannwg sy'n diddanu efo sgets yn yr Asiantaeth Deithio yng nghwmni Rhys Parri Jones, Gwyn Fôn, Sara Harries Davies a Manon Eames yn mynd nôl mewn amser....yn llythrennol! Brahms a Liszt Radio Cymru neu Alwyn Humphreys a Rhisiart Arwel sy'n adrodd ambell stori o'r byd clasurol ac yna criw Penigamp nôl yn y 70au wedi ennill y 'pools', ond dyw'r arian heb gyrraedd, felly ma'n rhaid i Marie James, Llangeitho sgwennu llythyr cwyno i Tydfor Jones.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 14 Awst 2023 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Tony ac Aloma

    Caffi Gaerwen

    • Goreuon.
    • Sain.
    • 3.
  • Lonnie Donegan

    Does Your Chewing Gum Lose Its Flavour (On the Bedpost Overnight?)

    • The Collection.
    • Castle Communications.
  • Benny Hill

    Ernie (The Fastest Milkman In The West)

    • Ernie (The Fastest Milkman In The West) [With Bonus Tracks].
    • Parlophone UK.
    • 1.
  • Huw Jones

    Dwi Isio Bod Yn Sais

    • Sain.
  • Hapnod

    Comedi A Thrasiedi

  • Rocyn

    Sosej, Bîns A Chips

    • FFLACH.
  • Ryan a Ronnie

    Sêr Pop Cymru

    • Ddoe Mor Bell.
    • Black Mountain Records.
    • 4.
  • Twm Price & Morien Phillips

    Ragbone

Darllediadau

  • Sul 25 Ebr 2021 14:00
  • Mer 17 Tach 2021 21:00
  • Sul 14 Mai 2023 13:00
  • Llun 15 Mai 2023 18:00
  • Sul 13 Awst 2023 13:00
  • Llun 14 Awst 2023 18:00