
Cwmni byrgyrs newydd yng nghanol Caerdydd
Shaun Jones ac Aled Hill sy'n sôn am sefydlu cwmni byrgyrs newydd yng nghanol Caerdydd. Shaun Jones and Aled Hill talk about their new burger venture in Cardiff city centre.
Shaun Jones, ŵyr y diweddar Oriel Jones ac Aled Hill yn wreddiol o'r Rhondda sy'n sôn am sefydlu cwmni byrgyrs newydd yng nghanol Caerdydd, gan ddefnyddio cig o fferm deuluol Shaun yn Llanybydder.
Yr hanesydd Gwyn Jenkins sy'n sôn am ei lyfr newydd 'A Welsh County At War' - hanes bywyd cymdeithasol ac amaethyddol Ceredigion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Y milfeddyg Glesni Haf o Lanfihangel y Creuddyn yn sôn am ei diddordeb mewn gwneud pob math o grefftau poblogaidd.
Y newyddion a'r prisiau diweddaraf o'r diwydiant llaeth gyda Richard Davies, a'r naturiaethwr, Daniel Jenkins-Jones sy'n adolygu'r wasg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 2 Mai 2021 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 3 Mai 2021 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru