Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ianto a Bethan v Tomos ac Eurfyl

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol. Catrin Beard searches for the most knowledgeable team in this no-nonsense quiz.

Catrin Beard sy'n chwilio am y tîm mwyaf gwybodus mewn cwis di-lol.

Tîm 1: Ianto a Bethan. Mae Ianto yn gweithio fel cyfieithydd i Gyngor Rhondda Cynon Taf, canu â chôr Bechgyn Bro Taf, a chefnogi tîm rygbi'r Gleision. Ffaith ddiddorol: Mi oedd yn y Brifysgol gyda'r dyn sy'n modelu'r plismon sydd y tu allan i ddrysau ÃÛÑ¿´«Ã½bargains. Ddim yn ei nabod yn dda. Mae Bethan yn athrawes ddrama yn Ysgol Glantaf, ac mae’n cefnogi tîm pêl-droed Wolverhampton Wanderers (Wolves). Ffaith ddiddorol: Cynrychiolodd Dîm Bowlio Cymru dan 18 ym Mhencampwriaethau Ewrop, ond mae cyfleoedd i chwarae wedi bod yn brin eleni, yn sgil y pandemig. Mae ganddyn nhw gi, Llew, sy’n mwynhau bwyta esgidiau pawb!

Tîm 2: Tomos ac Eurfyl - Tad a Mab. Mae Eurfyl wedi gorffen gweithio ar ôl bron i 30 mlynedd gyda’r Urdd, a bellach yn brysurach nag erioed - yn gadeirydd papur Bro y Cardi Bach ac yn ysgrifennydd Capel Calfaria, Login ymhlith dyletswyddau eraill. Ac os nad yw hynny’n ddigon mae’n ddilynwr brwd o’r Scarlets. Yn hynny o beth mae Tomos yn dilyn ei dad, ac yn chwarae rygbi i glwb Crymych. Mae wedi rhannu llwyfan gyda’r Welsh Whisperer pan yn gwneud stand up, a claim to fame Tomos yw bod Tecwyn Ifan a Dafydd Iwan wedi cysgu yn ei wely e - ond nid ar yr un pryd.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 20 Mai 2021 18:00

Darllediad

  • Iau 20 Mai 2021 18:00