Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwledydd yr Ewros

Ymweld â Gwledydd yr Ewros drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Er bod yr Ewros blwyddyn yn hwyr maen nhw wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae John Hardy yn ymweld â nifer o’r gwledydd sydd yn cystadlu.
Anthem Cymru yn Ewros 2016 oedd Rhedeg i Paris gan Candelas ond yr Anhrefn oedd â'r fersiwn wreiddiol, a chawn glywed gan Rhys Mwyn am addasiad Czechia! Ac o Czechia i Rwsia cawn hanes anhygoel y delynores Mags Harries a ysbrydolodd un o olygfeydd enwocaf comedi.
Nia Wyn Jones yn byw allan yn Warsaw a stori ddigri Emrys Williams am gyngerdd cyfnewid efo'r Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd. Yn ôl bob sôn mi dalodd yr actor James Nesbitt ffortiwn am drawsblaniad gwallt ac mae ei yrfa fel actor wedi elwa ond beth am Als Jones o Lanfairpwll aeth i Istanbul yn Nhwrci ar gyfer triniaeth o'r un fath?
Gisella Williams a fu'n adrodd y stori ramantus sut gwrddodd ei rhieni, ei thad o Fethesda a'i mam o'r Eidal. Hefyd, hanes gŵr a symudodd i Gymru, dysgu'r iaith, ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod yn 2016 a sefydlu busnes llwyddiannus tu hwnt sef Kees Huysmans - dyn y waffles!
Yn Ffrainc wrth gwrs oedd yr Ewros diwethaf yn 2016 pan gyrhaeddodd Cymru'r rownd gynderfynol cyn colli yn erbyn Portiwgal. Fe fu'r Wal Goch yn crwydro Paris, Bordeaux, Lyons a Lens ond aeth Eluned Phillips yno cyn yr Ail Ryfel Byd, a chyfarfod ag Edith Piaf.
Y naturiaethwr Iolo Williams sy’n dod ar draws adar anhygoel wrth deithio Portiwgal, a thaith digon chwithig gafodd Stewart Jones wrth deithio i'r Alban i gyfarfod ei rieni gwaed am y tro cyntaf a'r tro olaf pan roedd yn 26 oed.
Hefyd, fe gawn hanes T Glynne Davies yn ymuno â chriw hwyliog o Ddyffryn Lliw ar drip i Lundain.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 13 Meh 2021 14:00

Darllediad

  • Sul 13 Meh 2021 14:00