Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Tyfu bananas yn Awstralia

Profiadau Sioned Harries o Sir Gâr o weithio ar fferm bananas yn Awstralia am gyfnod. Sioned Harries from Carmarthenshire talks about working on a banana farm in Australia.

Profiadau Sioned Harries o Sir Gaerfyrddin, sydd wedi gweithio ar fferm bananas yn Awstralia am gyfnod.

Hefyd, antur go fawr sawl teulu sy’n ffermio ar ucheldir y Mynydd Du, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog, ger Llyn y Fan Fawr a Llyn y Fan Fach. Maen nhw'n cynnal traddodiad sydd wedi bodoli ers degawdau, sef casglu’r defaid o’r mynydd a’u harwain i lawr i'r fferm er mwyn cael eu didoli.

Hanes menter Becws Islyn a Chigoedd y Llain ym Mhen Llŷn sydd wedi penderfynu cydweithio ar fenter newydd sy’n golygu fod gan bobl ardal Aberdaron gigydd yn lleol unwaith eto.

Steffan Griffiths yn sôn am y tywydd am y mis i ddod, a Tomos Evans, aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Abergwaun, sy’n adolygu’r wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 30 Awst 2021 18:00

Darllediadau

  • Sul 29 Awst 2021 07:00
  • Llun 30 Awst 2021 18:00