
13/02/2022
Stori arallgyfeirio Emlyn a Hannah Jones o Gwmann ger Llanbed a'u menter glampio newydd. Emlyn and Hannah Jones from Cwmann near Lampeter talk about their new glamping business.
Emlyn a Hannah Jones o Gwmann ger Llanbedr-Pont-Steffan sy'n sôn am y broses o arallgyfeirio’n ddiweddar, gan sefydlu cwmni glampio newydd, sy’n gobeithio denu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r golygfeydd lleol.
Cai Roberts o Lanfrothen ger Porthmadog sy’n sôn am gael ei enwebu fel Dysgwr y Flwyddyn yng ngwobrau Lantra Cymru eleni.
Hefyd, hanes Dai Jones, mab fferm o Gapel Bangor ger Aberystwyth, sydd bellach yn gweithio fel rheolwr fferm Woodlands yn ardal Greenwich yn Llundain.
Richard Davies sy'n crynhoi’r newyddion diweddaraf o’r sector laeth, a Llinos Owen o elusen Tir Dewi sy’n adolygu’r wasg, a sôn am gystadleuaeth ffotograffiaeth newydd.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 13 Chwef 2022 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 14 Chwef 2022 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru