Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cofio Dai Jones, Llanilar

Terwyn Davies sy'n hel atgofion am y diweddar Dai Jones, Llanilar yng nghwmni Lyn Ebenezer a Jenny Ogwen. A tribute to farmer and presenter Dai Jones, Llanilar who died last week.

Terwyn Davies sy'n cofio'r diweddar Dai Jones, Llanilar drwy hel atgofion gyda dau oedd yn ei adnabod yn dda. Lyn Ebenezer a Jenny Ogwen sy'n talu teyrnged i'r ffermwr a'r cyflwynydd poblogaidd fu farw'n ddiweddar yn 78 oed.

Adroddiad o ddiwrnod cyntaf mart anifeiliaid Caerfyrddin sydd wedi ailagor y gatiau'n ddiweddar, ar ôl dwy flynedd ar glo.

Hefyd, stori Llŷr Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen sy'n gyrru i ddwyrain Ewrop er mwyn cynnig cymorth i ffermwyr a phobl yr Wcráin, sy'n dioddef ar hyn o bryd oherwydd y rhyfel.

A John Richards o Hybu Cig Cymru sy'n crynhoi'r prisiau diweddaraf o'r martiau anifeiliaid.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 14 Maw 2022 18:00

Darllediadau

  • Sul 13 Maw 2022 07:00
  • Llun 14 Maw 2022 18:00