
Adolygiad o Petula
Cerddoriaeth John Williams, y dramau Petula ac Ynys Alys, a'r albwm Tu Hwnt i'r Afon. John Williams' music, the album Tu Hwnt i'r Afon and news of the plays Petula and Ynys Alys.
Ganol Mawrth bu digwyddiad arbennig yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gofio’r diweddar Siôn Eirian, a Branwen Cennard fu yno ar ran Stiwdio. Branwen hefyd sy'n adolygu cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol a National Theatre Wales, Petula - drama liwgar sy’n addasiad gan Daf James o waith y dramodydd Ffrengig Fabrice Melquiot.
Mae Tu Hwnt i’r Afon yn gywaith rhwng y cerddor Simon Chandler a’r bardd Aled Lewis Evans, ac mae'r ddau yn ymuno gyda Nia i drafod y profiad o gyd-weithio ar yr albwm yma.
Mae Cwmni’r Fran Wen ar daith efo’r ddrama Ynys Alys; bu Stiwdio yn yr ystafell ymarfer i glywed gan y cast, yr awdur Gareth Evans Jones a’r cyfarwyddwr Gethin Evans.
Ac eleni mae’r cyfansoddwr arobryn John Williams yn dathlu ei ben-blwydd yn 90. Yn ystod ei yrfa hirfaith mae o wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer rhai o’r ffilmiau mwyaf eiconig yn hanes y sinema. Owain Llwyd sy’n edrych nôl dros ei fywyd a’i gyfraniad.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 21 Maw 2022 21:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2