Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pa mor heriol ydy troi hanes yn theatr?

Hanes dau gynhyrchiad theatrig, Gwyl y Gelli, a pha mor heriol ydy troi hanes yn theatr? Hearing about two theatre productions, and how challenging is turning history into theatre?

Yn y rhaglen hon mae Stiwdio yn cael hanes dau gynhyrchiad theatrig sydd yn cael eu perfformio, a hynny yn y cnawd, yn ystod yr wythnos i ddod ac mae Jon Gower yn rhoi rhagflas i ni o’r hyn sydd ar gael yng Ngŵyl y Gelli ddiwedd y mis.
Pa mor heriol ydy troi hanes yn gynhyrchiad theatrig tybed? Wel, dau sydd yn hen law ar wneud hynny sydd yn trafod, sef Manon Eames a Jeremy Turner.
Mae Nia Roberts hefyd yn sgwrsio gyda'r delynores Elinor Bennett yn dilyn ei chyhoeddiad diwedd ei bod wedi penderfynu ymddeol ar ôl degawdau o berfformio a hyfforddi y flwyddyn nesaf.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 9 Mai 2022 21:00

Darllediad

  • Llun 9 Mai 2022 21:00