Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Phyllis Kinney yn 100 oed

Eisteddfod Llangollen, Proms Cymru a dathlu penblwydd Phyllis Kinney yn 100 oed. A look at the arts in Wales and beyond.

Ymunwch gyda Nia Roberts am awr fyw a bywiog o drin a thrafod y celfyddydau, yng Nghymru a thu hwnt.

 ninnau ar drothwy Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, yng nghwmni’r cerddor, yr hyfforddwr llais a’r arweinydd Brian Hughes, cawn drafod sain unigryw y corau sydd wedi serenu yno ar hyd y blynyddoedd.

Mae’n gyfnod Proms Cymru hefyd, a'u sylfaenydd, Owain Arwel Hughes, sydd yn galw heibio i sgwrsio am yr arlwy eleni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Mae Manon Wyn Williams wedi bod yn trychu i weld beth fydd yn mynd â’i bryd hi'n gelfyddydol ym mis Gorffennaf.

A heddiw, yn Aberystwyth, mae Phyllis Kinney yn dathlu penblwydd arbennig yn 100 oed. Mae Nia yn cael cwmni, Eluned Evans, merch Phyllis, i sgwrsio am y dylanwadau cerddorol cynnar ym mywyd ei Mham pan oedd yn ifanc yn yr UDA, tra mae Rhidian Griffiths a Gwenan Gibbard yn dathlu cyfraniad Phyllis Kinney i’n diwylliant gwerin.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 4 Gorff 2022 21:00

Darllediad

  • Llun 4 Gorff 2022 21:00