
Cerddoriaeth
Comedi a sgwrsio gydag Esyllt Sears a'i gwesteion sy'n trafod dylanwad cerddoriaeth y 90au. Comedy and chat as Esyllt Sears and guests discuss the influence of 90s music in Wales.
Y gomediwraig Esyllt Sears sy'n edrych nôl ar ddegawd cerddorol anhygoel y nawdegau yng Nghymru. Yn ymuno â hi mae'r DJ 'Radio 1' Sian Eleri ac aelodau dau o fandiau'r cyfnod; Ian Cottrell o'r grŵp dawns Diffiniad a Rhydian Bowen Phillips o'r boyband Mega. O 'Cool Cymru' (y label waethaf yn hanes cerddoriaeth ym marn Esyllt) i frwydrau gyda thechnoleg yn y stiwdio ag ochr dywyll y sîn bop - mae'r cyfan yn cael ei drafod gyda chymysgedd o hiwmor, nostalgia a phrofiadau personol. Ac yn ymuno yn yr hwyl mae'r dramodydd, comediwraig a megafan EMF, Llinos Mai. Mae hi'n trafod ceisio bod yn ffan fwyaf cerddoriaeth Gymraeg y nawdegau wrth ymdopi gyda thrafnidiaeth gyhoeddus Sir Benfro a gigs mewn lleoliadau amaethyddol.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Iau 28 Gorff 2022 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 29 Awst 2022 17:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru