Main content

Eurig Druce

Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol yw gwestai Beti George. Eurig Druce, Managing Director of Citroën UK chats to Beti George.

Eurig Druce, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Gyfunol ydi gwestai Beti George.

Yn wreiddiol o bentref Bethel ger Caernarfon, mae Eurig bellach yn gweithio o'i gartref sydd wrth droed yr Wyddfa ac yn Dad i 3 o blant.

Bu Covid yn ofnadwy i lawer iawn ohonom ond i Eurig bu’n fantais mawr. Un penderfyniad gan y Bwrdd Rheoli oedd symud pawb i weithio o adref yn barhaol. Golyga hyn fod y ffordd o reoli yn wahanol ac mae'n trafod hyn gyda Beti.

Roedd ei daid o ochr ei Dad yn dod o dde Lloegr yn wreiddiol, a'i Nain yn dod o Drawsfynydd - roedd ei daid yn gweithio yn y camp gerllaw adeg rhyfel fel milwr a chyfarfod felly.

Mae wedi colli rhan fwyaf o’i olwg yn ei llygaid chwith: Pan oedd o rhyw 3-4 oed roedd yn chwarae yn yr ardd efo cane oedd yn dal planhigyn i fyny. Wrth fownsio’r cane, daeth allan o’r ddaear a mynd syth i’w lygaid. Mae’n cofio bod efo’i fam a’i dad, a’r sôn am fynd a fo mewn ambiwlans ac yntau’n dechrau crio. Dim ond 20% o’i olwg sydd ganddo yn ei lygaid, ond gan ei fod wedi digwydd mor ifanc, mae wedi hen addasu.

Mae'n rhannu hanesion ei fywyd ac yn dewis ambell gân.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 27 Hyd 2022 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Côr Glanaethwy

    Tangnefeddwyr

  • Bryn Fôn

    Rebal Wicend

    • Y Goreuon 1994 - 2005.
    • CRAI.
    • 4.
  • Welsh of the West End

    This Is Me

  • Hogia'r Wyddfa

    Safwn Yn Y Bwlch

    • Caneuon Gwladgarol - Patriotic Songs.
    • SAIN.
    • 10.

Darllediadau

  • Sul 23 Hyd 2022 13:00
  • Iau 27 Hyd 2022 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad