
Y Seren
John Hardy yn cyflwyno rhaglen o archif, atgof a chân, a'r thema yw Y Seren. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
John Hardy yn cyflwyno pytiau o archif Radio Cymru:
Rhodri Evans yn esbonio i Elin Rhys beth fu'r doethion yn ei ddilyn ar y ffordd i Bethlehem; Yr Athro Aneurin Evans yn trafod faint o sêr a welwn ni yn y nos; Hywel Jones yn trafod seryddiaeth gyda Frank Lincoln yn 1974; a Eiry Palfrey yn darllen siart sêr Wyndham Richards; a John Huws yn adrodd stori'r daranfollt neu feteor a laniodd ym Meddgelert.
Hefyd, John Roberts Williams yn edrych ymlaen at ymweliad Comed Halley yn 1986; Malcolm Allen yn datgelu ei hoff gan Nadoligaidd; Delwyn Siôn yn sôn am gefndir y gan Un Seren; Rhys ap Hywel Morris yn cael ei holi yn 1978 ac yn 1991 ar bynciau yn ymwneud a seryddiaeth; a Harri Parri yn holi Cecilia Conway Pritchard o Benmaenmawr am seren newydd wnaeth ymddangos yn un o'i chynyrchiadau, sef Emlyn Williams;
... a Thîm Bryncoch yn derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan ei seren o flaenwr, George.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 11 Rhag 2022 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Mer 14 Rhag 2022 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2