
05/02/2023
Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Wrth i dymor y Chwe Gwlad ddechrau, Byd y Bêl fydd y thema gyda John Hardy yn cyflwyno.
Y tirmon Albert Francis yn trafod y gêm rhwng Cymru a Lloegr ar Barc yr Arfau nôl yn 1963 pan roedd eira yn gorchuddio'r tir. Clive Rowlands, Bill Morris, Brian Davies a D. Ken Jones yn cofio'r gêm enwog rhwng yr Alban a Chymru yn Murrayfield eto yn 1963 pan giciodd Clive 111 o weithiau tuag at yr ystlys yn ol y sôn.
Austin Savage yn cofio cyfnod trist yng Nghemau Olympaidd Munich yn 1972; Y golffwraig Becky Brewerton yn siarad am ei gyrfa gyda Dewi Llwyd.
Carwyn James a Eic Davies yn trafod y bathu termau a fuodd adeg dechrau sylwebaethau Cymraeg a chlip o'r sylwebaeth Gymraeg gynta nol yn 1952.
Laura McAllister yn trafod ei gyrfa gyda Beti George a Dic Jones a'i Salm i'r Slam Fawr yn 1971.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 5 Chwef 2023 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2