Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhewlifeg, bio-feddygaeth, camera ar gyfer y gofod, a bywyd ar waelod y môr

Elin Rhys yn cwrdd â gwyddonwyr sy’n gobeithio gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory. The challenges facing Wales' young scientists, and their hopes for the future.

Elin Rhys sy’n cwrdd â rhai o wyddonwyr Cymru sy’n ymchwilio heddiw, er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n bywydau yfory.

Dr Iestyn Barr, ymchwilydd mewn rhewlifeg a darlithydd ym Mhrifysgol Manceinion, ac ail ysgrifennodd llyfrau hanes rhewlifoedd yn ystod y cyfnod clo. Fe fapiodd gymoedd yn Antarctica drwy luniau lloeren, gan brofi bod rhewlifoedd bach wedi bodoli yno ers dros 60 miliwn o flynyddoedd yn hytrach na 34 miliwn o flynyddoedd. Mae ei waith ymchwil yn trawsnewid ein dealltwriaeth o hanes rhewlifoedd a'n helpu i ddeall beth fydd dyfodol rhewlifoedd presennol mewn byd sy'n cynhesu.

Dr Helen Miles a Dr Matt Gunn, dau wyddonydd yn Aberystwyth sydd wedi paratoi camera ar gyfer glaniwr Rosalind Franklin - a oedd i fod i godi ar roced o Rwsia ychydig fisoedd yn ôl. Fe fyddai'r glaniwr a’r camera hanner ffordd i'r blaned Mawrth erbyn hyn, ond buan newidiodd hynny wedi i Rwsia ymosod ar yr Wcráin. Yn y gobaith y daw cyfle eto mae'r ddau yn dal i baratoi, ac yn disgrifio beth sydd yn bosib gyda'r camera.

Mari Davies, myfyriwr PhD, sy’n gweithio ym maes bio-feddygaeth yn Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd. Mae hi'n edrych ar y darnau bach yn ein celloedd sydd yn ganolfan ail gylchu i bethau gwenwynig, ac yn canfod cyffuriau i helpu pan mae pethau yn mynd o'i le gyda'r broses glyfar hon.

Ac i orffen y rhaglen, nol â ni i'r Antarctig, lle mae Dr Huw Griffiths ar hyn o bryd, ar long wedi ei henwi ar ôl Syr David Attenborough. Mae’n gweithio i'r British Antarctic Survey fel biolegydd ac yn chwilio am fywyd ar waelod y môr nad oes neb wedi ei weld o'r blaen.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 1 Mai 2023 17:30

Darllediadau

  • Sul 12 Maw 2023 18:30
  • Llun 13 Maw 2023 18:30
  • Llun 1 Mai 2023 17:30