Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Twristiaeth yng nghefn gwlad Cymru

Terwyn Davies sy'n clywed gan ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i'r byd twristiaeth. Terwyn Davies hears from farmers who have ventured into the tourist industry in Wales.

Terwyn Davies sy'n clywed gan ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i'r byd twristiaeth yng Nghymru.

Gwenfair Willams a’i thad Rob Owen o Lanfair ger Harlech sy'n sôn sut y gwnaethon nhw arallgyfeirio'r fferm deuluol i fod yn barc antur i blant. Maen nhw hefyd yn aeddfedu caws mewn ogofau llechi ar dir y fferm.

Hefyd, hanes Grug Jones a'r teulu o Dreorci yng Nghwm Rhondda sy'n rhedeg siop fferm a bwyty, gan werthu cynnyrch o'r fferm yn syth i'r cwsmeriaid.

Mae'r brodyr a’r ffermwyr Dafydd ac Owain Morris o Lanrhaeadr ym Mochnant wedi mynd ati i roi podiau unigryw ar y fferm sy’n cael eu pweru gan eu tyrbin dŵr.

A Helen Mrowiec, Arweinydd Tîm Safleoedd Cefn Gwlad, Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon sy'n trafod yr amgueddfa o hen offer amaethyddol a’r bridiau cynhenid sy’n cael eu cadw yn y parc.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Meh 2023 07:00

Darllediadau

  • Sul 9 Ebr 2023 07:00
  • Sul 11 Meh 2023 07:00