Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Amser

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Gyda'r clociau yn mynd 'mlaen y penwythnos yma, 'Amser' fydd thema Cofio yng nghwmni John Hardy.

Mae Eleri Hopcyn, nôl ym 1981, yn sôn am y gŵr a benderfynodd droi’r cloc yn ôl ag ymlaen sef William Willett o Surrey. Mae cloc enwog Machynlleth yn cael sylw gan ddirprwy faer y dref, Tecwyn Jones, sy’n sgwrsio gyda John Meredith, ac mae John Wyn Jones yn sôn am felltith Richard Rowlands ar gloc Biwmares.

Clywn Glan Davies yn trafod amseru wrth ddweud stori ddoniol, ac Alun Wyn Bevan yn trafod gemau chwaraeon sydd wedi newid cyfeiriad yn yr eiliadau olaf.

Mae Emyr Llywelyn yn sôn am ei gyfnod yn y carchar nôl ym 1963, ac mae Malcolm Slim Williams yn hel atgofion o’i amser fel un o gyflwynwyr y rhaglen blant Yr Awr Fawr nôl yn yr 80au.

57 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Maw 2023 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 26 Maw 2023 14:00