 
                
                        23/04/2023
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trin a thrafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth.  hithau heddiw'n 'Ddiwrnod Llyfr y Byd' mae Ffion yn cael cwmni Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause yn ogystal â'r nofelwyr rhyngwladol Kris Hughes a Clare Mackintosh. Trafod drama lwyfan ddwyieithog 'Bipolar a Fi' mae'r actorion Ceri Ashe ac Aron Cynan - cyflwr y mae Ceri fel awdur y ddrama yn byw gydag e. Mae'r artist print gweledol o Ddyffryn Ogwen, Rebecca Hardy-Griffiths yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs cyn mynd draw i Lerpwl yn y prynhawn i arddangos a gwerthu ei chynnyrch, tra bod Fflur Dafydd yn trafod yr her o drosglwyddo straeon trosedd i'r sgrîn. Ac yn ogystal â'r trin a'r trafod mae rhaglen Ffion Dafis hefyd yn gartref i glywed rhan o gyngherddau cyfredol Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y ÃÛÑ¿´«Ã½, a'r wythnos yma cyfle i glywed trac o gyngerdd y Gerddorfa yn Neuadd Dewi Sant, Nos Iau ddiwethaf, sef 'Y Freuddwyd Americanaidd' gan Charles Ives, Karol Szymanowski a John Adams dan arweinyddiaeth Ryan Bancroft.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y ÃÛÑ¿´«Ã½The Unanswered Question 
- 
    ![]()  ALAWBwthyn Fy Nain - Alaw (Byw yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023) 
- 
    ![]()  Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y ÃÛÑ¿´«Ã½ & Ryan BrancroftLittle Ireland - Michael Lewis 
- 
    ![]()  MaredPontydd - Recordiau I KA CHING.
 
- 
    ![]()  Scott BradleeDream a Little Dream of Me 
- 
    ![]()  HMS MorrisMyfyrwyr Rhyngwladol - Bubblewrap Collective.
 
- 
    ![]()  John Ieuan JonesLlanrwst - John Ieuan Jones.
- Sain (Recordiau) Cyf.
- 7.
 
- 
    ![]()  Cerddorfa Genedlaethol Y ÃÛÑ¿´«Ã½ & Maxim RysanovSymphony No 1 in D major - 'Classical' - Sergei Prokofiev 
- 
    ![]()  Pwdin ReisDicsi'r Clustie - Neis Fel Pwdin Reis.
- Recordiau Reis.
 
- 
    ![]()  ³Õ¸éïYr Ehedydd - Vri (Byw yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023) 
Darllediad
- Sul 23 Ebr 2023 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
