Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gŵyl Gwyrthwlân Cymru

Adroddiad o ŵyl gwlan a ffibrau naturiol, Gwyrthwlân 2023, gynhaliwyd ar faes y Sioe Fawr. A report from the Wonderwool Wales festival held on the Royal Welsh Showground recently.

Rhodri Davies o dîm y Bwletin Amaeth sydd ag adroddiad o ŵyl Gwyrthwlan Cymru 2023, gynhaliwyd ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd - gŵyl sy’n dathlu gwlân a’i holl ddefnyddiau.

Hefyd, stori’r ffermwr llaeth o Bow Street ger Aberystwyth, Jâms Morgan, sy'n aelod o grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru.

Yr awdures o’r Amwythig, Julie Brominicks sy’n sôn am ei llyfr newydd 'The Edge of Cymru' - cyfrol am ei thaith yn cerdded llwybr arfordir Cymru, a’i pherthynas hi â Chymru.

Y newyddion diweddaraf o'r farchnad laeth gyda Richard Davies, a’r arbenigwr amaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Mary Richards sy’n pori drwy’r wasg a'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 30 Ebr 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 30 Ebr 2023 07:00