
Treialon Cŵn Defaid yn dathlu'r 150!
Hanes dathliadau Cymdeithas Treialon Cŵn defaid hynaf y byd yn 150 oed, gyda digwyddiad yn y Bala. Sheepdog trial celebrations in Bala as they celebrate 150 years of events.
Wrth i gymdeithas dreialon cŵn defaid hynaf y byd ddathlu’i phen-blwydd yn 150, Erin Fflur McNaught ac Eifion Davies sy'n sôn am drefnu digwyddiad go arbennig yn y Bala.
Mewn ymgais i ffermio'n fwy effethiol, Huw Jones o fferm y Bryn, y Ferwig ger Aberteifi sy’n sôn am y broses o besgu lloi sugno yn 13 mis.
Stori’r filfeddygfa o ganolbarth Cymru, Milfeddygfa Williams, sydd wedi ennill gwobr practis Milfeddygol Orau’r Flwyddyn.
Llŷr Griffiths-Davies â rhagolygon y tywydd am y mis i ddod, ac yn adolygu’r straeon amaethyddol yn y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol, mae Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru i elusen cefn gwlad FCN Cymru, Linda Jones.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Sul 14 Mai 2023 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru