 
                
                        Enillydd Ysgoloriaeth Gelf Artist Ifanc yr Urdd
Ymysg y sgyrsiau celfyddydol mae Ffion Dafis yng nghwmni enillydd Ysgoloriaeth Gelf Artist Ifanc yr Urdd eleni. A look at the arts scene in Wales and beyond, with Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Llyr Evans, enillydd Ysgoloriaeth Gelf Artist Ifanc yr Urdd yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri yn ddiweddar. Prosiect perfformio mewn neuaddau pentrefi a chanolfannau cymunedol Synfonia Cymru sydd yn cael sylw Mari Grug tra bod Iola Ynyr a Sioned Medi yn galw heibio i sgwrsio am brosiect celfyddydol hynod gyffrous 'Mwy i Mi'.
 hithau'n benwythnos ffeinal cystadleuaeth Canwr y Byd yng Nghaerdydd, y cerddor Alwyn Humphreys sydd yn trafod y llais fel offeryn ac yn holi a ydy lleisiau ifanc yn cael eu hyfforddi yn ormodol y dyddiau yma?
Rhys Lloyd Jones sydd yn sgwrsio am rai o bosteri a gwaith celf chwedlonol a wnaed gan Stuart a Lois Neesham o argraffdy Enfys sy'n rhoi cipolwg ar y sîn gerddorol ym Mangor yn y 1970au.
Ac yn trafod crefft yr awdur cysgodol mae Aled Jôb ac Elinor Wyn Reynolds.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Hywel PittsCân O'r Galon - Sesiynau Stiwdio Sain.
- Sain.
- 9.
 
- 
    ![]()  The Gentle GoodMae'r Ddaear yn Glasu - Oifad.
- Not on Label.
 
- 
    ![]()  Lerato, Abel Selaocoe & ÃÛÑ¿´«Ã½ National Orchestra of WalesLerato - Abel Selaocoe + ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW 
- 
    ![]()  Elin FflurAr Lan Y Môr - Dim Gair.
- SAIN.
- 9.
 
- 
    ![]()  LlÅ·r Williams6 Bagatelles, Op. 126: No. 2 in G Minor. Allegro - LlÅ·r Williams: Beethoven Unbound.
- Signum Records.
- 83.
 
- 
    ![]()  Bass 12Thriller - Sound Recordings.
 
- 
    ![]()  Carwyn Ellis & Gerddorfa genedlaethol ÃÛÑ¿´«Ã½ CymruTi 
- 
    ![]()  BronwenEdrych 'Rôl Fy Hun - ÃÛÑ¿´«Ã½.
- Gwymon.
- 14.
 
Darllediad
- Sul 18 Meh 2023 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
