
John Owen yn gadael Coleg Gelli Aur
John Owen sy'n sôn am ddiwedd cyfnod wrth iddo adael Coleg Amaeth Gelli Aur ger Llandeilo. John Owen talks about the end of an era, as he leaves Gelli Aur College near Llandeilo.
Sgwrs gyda John Owen sy’n gadael Coleg Amaethyddol Gelli Aur ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl blynyddoedd o addysgu myfyrwyr amaeth yn y coleg; a'r ffermwr Roland Davies o Lanidloes sy'n sgwrsio am y profiad o fod ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni.
Hefyd, a hithau'n Ddiwrnod yr Hufen Iâ, Dewi Roberts o gwmni Red Boat Ice Cream yn Llangefni sy'n sôn am greu gelato ar Ynys Môn, gan gyflenwi cwsmeriaid yng ngogledd Cymru a thu-hwnt; John Richards o Hybu Cig Cymru sy’n trafod y diweddaraf o’r sector cig coch; a Hefin Jones, y ffermwr a’r cynghorydd sir o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin sy’n adolygu’r wasg amaethyddol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Sul 16 Gorff 2023 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru