Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a’i westeion yn trin a thrafod digwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ym Moduan.

Steffan Donnelly ac Elgan Rhys, dau o feirniaid cystadleuaeth Y Fedal Ddrama, sydd yn ymuno gydag Iwan i drafod y dramâu a ddaeth i law eleni.

Alwyn Humphreys a John Ieuan Jones sydd yn trafod uchafbwyntiau cerddorol y dydd gan gynnwys Gwobr Goffa T. Osborne Roberts.

Mae y cerddor Ilid Anne Jones yn galw heibio i sgwrsio am Leilia Megane, gwraig T. Osborne Roberts, ac mae Dyfrig Davies yn cadw golwg ar uchafbwyntiau llefaru y dydd.

Iaith a dywediadau Pen Llŷn sydd yn cael sylw Mei Mac a Margiad Roberts, ac mae Ffion Dafis yn sgwrsio gyda’r dramodydd Bethan Marlow.

 hithau’n noson Gig y Pafiliwn, mae’r cerddor Owain Gruffudd Roberts yn trafod ei waith fel cyfarwyddwr cerdd y cynhyrchiad ac arweinydd Cerddorfa y 'Welsh Pops'.

Ac yn cadw golwg ar y straeon newyddion ar y maes mae’r bardd a’r newyddiadurwr Karen Owen.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 10 Awst 2023 18:00

Darllediad

  • Iau 10 Awst 2023 18:00