
03/09/2023
Wrth iddo ymddeol o fanc HSBC, Euryn Jones sy’n hel atgofion am ei yrfa yn y byd amaeth. Euryn Jones looks back at his career as he retires from his role at the HSBC bank.
Wrth iddo ymddeol o fanc HSBC fel Dirprwy Reolwr Amaeth y banc, Euryn Jones sy’n hel atgofion am ei yrfa yn y byd amaethyddol.
Hefyd, Mags Jones, Ysgrifennydd Pencampwriaeth Aredig Cymru, sy’n edrych ymlaen at y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Llanon, Ceredigion ar y nawfed o Fedi. Dyma’r tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal yno ers deng mlynedd.
Mae cwmni In the Welsh Wind o ardal Aberteifi wedi derbyn statws go arbennig i’w gwirod yn ddiweddar, gan dderbyn Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig y Deyrnas Unedig. Mae Dan Jones, Rheolwr Gwerthiant ac Allforio’r ddistyllfa yn falch iawn mai dyma’r gwirod cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws o’r math hwn.
Richard Davies sy’n crynhoi’r holl newyddion diweddaraf o’r diwydiant llaeth, ac Elliw Haf Griffith o CFFI Dwyran ar Ynys Môn, sydd hefyd yn Gadeirydd Digwyddiadau a Marchnata CFFI Cymru sy’n adolygu’r straeon gwledig yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 3 Medi 2023 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru