Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cynhadledd Cynaliadwyedd NFU Cymru

Dylan Morgan o NFU Cymru sy'n sgwrsio am y gynhadledd ym Mhen LlÅ·n yr wythnos hon. Dylan Morgan from NFU Wales discusses the sustainable farming conference near Pwllheli this week.

Dylan Morgan o NFU Cymru sy'n sgwrsio am y gynhadledd sy'n cael ei chynnal ym Mynytho, Pen Llŷn yr wythnos hon. Hefyd, sgwrs gyda Mared Williams o Ystâd y Rhug ger Corwen, a pherchennog Fferm Bodwi ym Mynytho, Edward Griffith.

Hefyd, Abel Pearson, Cyfarwyddwr cynllun Glasbren ger Caerfyrddin, sy'n sôn am Ddydd Gŵyl Hadau Caerfyrddin - Y Cynhaeaf - gŵyl sy'n cael ei chynnal yn y dref y penwythnos nesa, i dyfwyr llysiau a chnydau gyfnewid hadau ar gyfer y tymor sydd i ddod.

A sgwrs hefyd gyda Marc Allison, Fferm Sychpant yn Rhoshill ger Aberteifi - fferm odro sydd wedi llwyddo i hanneru eu hallyriadau carbon drwy wneud newidiadau bychan i'w ffordd o amaethu.

Rhagolygon y tywydd am y mis i ddod gyda LlÅ·r Griffiths-Davies, a Threfnydd Cenedlaethol Merched y Wawr, Tegwen Morris, sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 24 Medi 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 24 Medi 2023 07:00