Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Sioe Laeth Cymru 2023

Adroddiad o Brif Sioe Laeth Cymru gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar. A report from the Wales Dairy Show which was held recently in Carmarthen.

Rhodri Davies ag adroddiad o Brif Sioe Laeth Cymru gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar, sy'n cynnwys sgyrsiau gyda'r trefnwyr a'r cystadleuwyr.

Sgwrs hefyd gyda Llywydd newydd CFFI Cymru, Sarah Lewis o Sir Drefaldwyn, sy'n edrych ymlaen at y ddwy flynedd nesaf yn y rôl anrhydeddus.

Dylan Wyn Evans o Fferm TÅ· Cynan yn Llangwnadl ar Benrhyn LlÅ·n sy'n egluro pam maen nhw fel teulu wedi mentro i dyfu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf eleni, gan wahodd ymwelwyr i'r fferm i ddewis pwmpenni ar gyfer y noson arswydus.

Rhagolygon y tywydd am y mis nesaf yng nghwmni LlÅ·r Griffiths-Davies, a'r ffermwr godro o Ffynnonddrain, Caerfyrddin, Brian Walters sy'n darllen drwy'r straeon difyr yn y papurau newydd a'r cyfryngau cymdeithasol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 29 Hyd 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 29 Hyd 2023 07:00