 
                
                        Cyfrol o farddoniaeth Casi Wyn a chofio pantomeimiau Dafydd Hywel
Ffion Dafis yn clywed am ffotograffydd dogfennol o sir Gâr, a 'Swyn' gan Theatr Genedlaethol Cymru. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni Casi Wyn sydd yn sgwrsio am ei chyfrol newydd o farddoniaeth yn deillio o'i chyfnod fel Bardd Plant Cymru rhwng 2021 a 2023.
Hanes gwaith y ffotograffydd dogfennol sydd yn byw a gweithio ym Mhentrecwrt, Sir Gaerfyrddin, mae Mari Grug, tra bod Hedydd Ioan yn ein tywys i fyd y ffilmiau amgen dros gyfnod y Nadolig.
Adolygu cynhyrchiad diweddar Theatr Genedlaethol Cymru, sef 'Swyn' mae Angharad Walton, ac mae Sioned Wiliam yn adolygu llyfr newydd ar fywyd a pherthynas Richard Burton ac Elizabeth Taylor.
Yn ogystal â hyn mae Ffion yn hel atgofion gyda Lisa Marged am y diweddar Dafydd Hywel a'i bantomeimiau bywiog ar hyd y blynyddoedd.
Ac yna i gloi, mae Bardd y Mis, Meleri Davies yn ymuno gyda Ffion i gyflwyno cerdd arbennig fel ymateb i ddigwyddiad celfyddydol sydd wedi mynd â'i bryd yn ystod 2023.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Al LewisDarlun - Ar Gof A Chadw.
- Rasal.
- 1.
 
- 
    ![]()  Ragtime, Igor Stravinsky, ÃÛÑ¿´«Ã½ National Orchestra of Wales & Ryan BancroftRagtime - Stravinsky - ÃÛÑ¿´«Ã½ NOW 
- 
    ![]()  Kizzy Crawford & FfrindFfrind - Kizzy Crawford 
- 
    ![]()  Ysgol GlanaethwyHaleliwia - Haleliwia.
- Sain.
- 11.
 
- 
    ![]()  Dafydd HeddAtgyfodi - Bryn Rock Records.
 
- 
    ![]()  Rhys Meirion & Bryn FônGwinllan - Deuawdau Rhys Meirion.
- Cwmni Da Cyf.
- 1.
 
Darllediad
- Sul 17 Rhag 2023 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
