 
                
                        Gwerin
Archif, atgof a chân y werin yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Archif o noson werin yn Neuadd y Penrhyn, Bangor yn cael ei arwain gan Meredydd Evans, atgofion Myrddin ap Dafydd am y cylchgrawn hanesion gwerin 'Llafar Gwlad' a dadansoddiad o eiriau 'nonsens' yng nghaneuon gwerin yng nghwmni Gwenan Gibbard.
Hefyd ceir Linda Griffiths yn olrhain hanes y gân 'Seidr Ddoe' a pherfformiadau o ganeuon gwerin gan Buddug Lloyd Roberts, Elfed Lewis ac Eryrod Meirion. Gari Wyn sy'n holi Nia Williams ac Owain Rhys o Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan; Siôn Tomos Owen sy'n cyfansoddi cerdd wedi ysbrydoli gan draddodiadau gwerinol; Eurwyn Williams sy'n cofio effaith Y Crynwyr a ddaeth i ardal Bryn-mawr yng Ngwent; Hugh Davies o Lanymddyfri sy’n ymddiddori yn hanes y Garthen Gymreig; a Gerallt Lloyd Owen sy'n mwynhau englyn ar y testun Llwch yn y Talwrn.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Buddug Lloyd RobertsDeio'r Glyn 
- 
    ![]()  Parti Cut LloiFferm Fach - Folk Choirs Of Wales.
- Sain.
- 18.
 
- 
    ![]()  PedairCân Crwtyn y Gwartheg 
- 
    ![]()  Parti CamddwrGwenno Penygelli 
- 
    ![]()  Bob Roberts Tai'r FelinMari Fach Fy Nghariad - Bob Roberts Tai'r Felin.
- Sain.
 
- 
    ![]()  Eryrod MeirionFfarwel I Blwy Llangywer (Eisteddfod Genedlaethol 2018) - Eryrod Meirion.
- Recordiau Maldwyn Records.
 
Darllediadau
- Sul 14 Ion 2024 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Llun 15 Ion 2024 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
