Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno

Trafod sut mae'r wefan Facebook wedi newid tirlun y cyfryngau cymdeithasol, a Ryan Chappell yn trafod cystadleuaeth i greu ffilm wrth-hiliol. Discussing Wales and the world.

Rhodri Llywelyn yn cyflwyno.

Cyn faswr Cymru Gareth Davies a'r diddanwr Max Boyce fydd yn arwain y teyrngedau i'r digymar Barry John yn dilyn ei farwolaeth yn 79 oed.

 hithau'n 20 mlynedd ers sefydlu gwefan gymdeithasol Facebook, Sioned Hughes ac Elan Ial sy'n sôn sut mae'r wefan wedi newid tirlun y cyfryngau cymdeithasol.

Ryan Chappell yn trafod cystadleuaeth arbennig ar gyfer ysgolion Cymru i greu ffilm wrth-hiliol er mwyn hyrwyddo Cynllun Gwrth-Hiliol Llywodraeth Cymru 2030;

A'r diweddara o'r meysydd chwarae yng nghwmni Ffion Higgs, Dyfed Cynan a'r gohebydd Dafydd Pritchard.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 5 Chwef 2024 13:00

Darllediad

  • Llun 5 Chwef 2024 13:00