 
                
                        Pentrefi
O Gapel Celyn i Bortmeirion, pentrefi sy'n cael sylw John Hardy wrth dwrio drwy archif Radio Cymru. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Archif, atgof a chân ar thema pentrefi yng nghwmni John Hardy. Yn cynnwys cyn aelodau o bentre Capel Celyn yn cofio protestio yn erbyn cynlluniau ar gyfer argae Tryweryn, a Robin Llywelyn, rheolwr gyfarwyddwr y pentre Eidalaidd Portmeirion yn esbonio mai gweledigaeth a ffantasi ei daid, Syr Clough Williams-Ellis oedd y cyfan.
Hefyd ar y rhaglen; 
Yr awdur T Llew Jones sy'n hel atgofion am Bentrecwrt, yn Nyffryn Teifi ble y magwyd. 
Aled Hughes sy'n ymweld â'r dafarn gymunedol hynaf yn Ewrop sef Y Fic yn Llithfaen gan holi John Dilwyn Williams am hanes y pentre islaw, Nant Gwrtheyrn. 
Y Ceff ydy enw tafarn pentre ffuglennol Rhydeglwys ac fel rhan o filfed pennod yr opera sebon 'Eileen' mae yna sawl cyfrinach yn cael ei ddatgelu; 
John Hughes yn cofio ei ddyddiau ysgol ym mhentref Llangernyw yn Sir Conwy; 
Ynyr Williams sy'n cyflwyno englyn am Drawsfynydd ar y Talwrn; 
Dei Tomos sy'n holi aelodau Côr Llanbobman. 
Hywel Davies a Megan German sy'n rhoi darlun o fywyd ym mhentre Carno yn yr 80au. 
Ifana Savill sydd wedi trawsnewid ei chartref teuluol ym Mlaenpennal i fod yn set deledu a phentre gwyliau 'Sali Mali'.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Steve EavesPentref - Y dal yn dynn, y tynnu'n rhydd.
- Sain (Recordiau) Cyf.
- 1.
 
- 
    ![]()  Sobin a'r SmaeliaidPlwy Llanllyfni - Sobin A'r Smaeliaid 1.
- Sain.
- 9.
 
- 
    ![]()  Ray GravellFy Mhentre I - Tip Top.
- Fflach.
 
- 
    ![]()  MabliLlangrannog - Fi yw Fi.
- Recordiau Jigcal Records.
- 3.
 
- 
    ![]()  Mim Twm LlaiTafarn Yn Nolrhedyn - O'r Sbensh.
- CRAI.
- 7.
 
- 
    ![]()  Daniel LloydGadael Rhos - Tro Ar Fyd.
- RASAL.
- 2.
 
- 
    ![]()  Geraint Jarman a’r CynganeddwyrPentref Wrth y Môr - Sain (Recordiau) Cyf.
 
Darllediadau
- Sul 11 Chwef 2024 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2
- Llun 12 Chwef 2024 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
