Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dathlu 40 mlynedd o Rasys Tregaron

Gwenan Thomas o Gwmann sy'n sôn am ei chyfrol newydd yn dathlu ras y Clasur Cymreig. Gwenan Thomas talks about her new book, celebrating the Welsh Classic race at Tregaron.

Gwenan Thomas o Gwmann sy'n sôn am ei chyfrol newydd yn dathlu 40 mlynedd o rasio harnais gan Glwb Trotian Tregaron, gan gynnwys ras enwog y Clasur Cymreig.

Wedi cynnal Treialon Cŵn Defaid Cenedlaethol Cymru yn Ystrad Fflur yn ddiweddar, John Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Lleol sy'n edrych yn nôl ar y digwyddiad, gan edrych ymlaen hefyd at y Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn yr Alban sy'n cael eu cynnal fis Medi.

Alwyn Evans sy'n sôn am ei gyfrol newydd, Hogyn Bryn Moel - cyfrol sy'n olrhain hanes ei hen-ewyrth Goronwy Owen o Lanycil ger y Bala, ac arferion ffermio y cyfnod hwnnw.

Rhagolygon y tywydd gyda Megan Williams, a'r athrawes ac un o gyflwynwyr S4C yn y Sioe Fawr, Hannah Parr sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 25 Awst 2024 07:00

Darllediad

  • Sul 25 Awst 2024 07:00