Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cynhyrchwyr bwyd o Gymru

Rhaglen arbennig yn sgwrsio gyda rhai o gynhyrchwyr bwyd o Gymru - o iogwrt i gig a jam. The focus on this programme is food producers from Wales - from yoghurt, meat and jams.

Rhaglen arbennig yn sgwrsio gyda rhai o gynhyrchwyr bwyd o Gymru - o iogwrt i gig a jam.

Gareth Roberts o gwmni Llaeth y Llan yn Llannefydd ger Dinbych sy'n sôn am ddechrau cynhyrchu iogwrt ar y fferm nôl yn 1982.

Hefyd, hanes cynllun Glasbren yn Sir Gaerfyrddin. Abel Pearson sy'n sôn am dyfu bwyd gwyllt yn lleol.

Siôn Jones a Sulwen Richards sy'n sgwrsio am ymgymryd â'r awennau yn siop y cigydd ym mhentref Llanon, Ceredigion.

A Carol Jones o gwmni Welsh Lady Preserves sy'n olrhain hanes y cwmni yn y Ffôr ger Pwllheli lle maen nhw'n cynhyrchu jamiau a chyffeithiau o bob math.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Ion 2025 07:00

Darllediadau

  • Sul 6 Hyd 2024 07:00
  • Sul 5 Ion 2025 07:00