
09/02/2025
Cyfres sy'n rhoi llwyfan haeddiannol i wyddonwyr Cymru er mwyn dathlu'r ffaith bod nifer ar flaen y gad yn eu meysydd.
Cyfres sy'n canolbwyntio ar ymdrechion gwyddonwyr Cymru sydd â'u bryd ar greu yfory gwell, gan geisio ateb rhai o'n problemau mwyaf dyrys a chanfod atebion i gwestiynau mwyaf heriol y bydysawd.
Mae'r cyflwynydd Elin Rhys yn cyfarfod â gwyddonwyr yn eu labordai neu wrth eu gwaith maes er mwyn deall mwy am sut a pham maen nhw'n buddsoddi amser ac egni yn ymchwilio. Mae hi hefyd yn adolygu straeon am waith ymchwil hollol newydd o'r wasg wyddonol yng nghwmni newyddiadurwr y Conversation - Siriol Griffiths, ac hefyd yn edrych yn ôl ar rai o wyddonwyr y gorffennol sydd wedi ysbrydoli rhai o'n gwyddonwyr presennol mwyaf blaenllaw.
Yn y rhaglen gyntaf mae Elin yng nghwmni Dr Robert Deaves - yn wreiddiol o Borthaethwy - sydd wedi dyfeisio robotiaid i lanhau carpedi, a cheir i yrru ar eu pennau eu hunain. Yn beiriannydd sydd yn arloesi yn y maes mae'n disgrifio sut mae dyfeisiadau fel hyn yn gweithio.
Byddwn yn ymweld â diwrnod agored cwmni Hyppo yn Abertawe wrth iddyn nhw arddangos cerbydau sy’n rhedeg ar Hydrogen a bydd Dr Guto Owen a Dr Emily Preedy yn sôn am y manteision er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Yn straeon y wasg, Siriol sy'n sôn am ymchwil newydd i droi bara gwastraff yn fwyd maethlon llawn protein - ac ymchwil sy'n dangos y tebygolrwydd eich bod yn yfed gormod drwy fesur hyd eich bysedd.
Ac i gloi Athro Eleri Pryse sy'n sôn am ei harwr, y seryddwr a'r Parchedig Silas Evans - awdur llyfr seryddiaeth Cymraeg nôl yn y 1800au.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 9 Chwef 2025 16:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru