
Sefyllfa band eang yng nghefn gwlad
Terwyn Davies sy'n trafod sefyllfa band eang cyflym yn y cymunedau gwledig erbyn hyn, ac a yw wedi gwella? Terwyn Davies discusses high speed broadband in the rural communities.
Terwyn Davies sy'n trafod sefyllfa band eang cyflym yn y cymunedau gwledig erbyn hyn, ac a yw wedi gwella? Ac a oes lle i wella eto? Cawn glywed profiadau Arwel Davies o Fydroilyn, Ceredigion o fand eang gwan ar ei fferm, a hefyd Delyth Williams o Aberaeron sydd wedi cael trafferthion gyda band eang gwan yn y gorffennol.
Sgwrs hefyd gydag Elinor Williams o OFCOM Cymru i sôn sut y mae'r sefyllfa wedi gwella, a'r datblygiadau ar gyfer y dyfodol.
Sioned Pritchard o Wagyu Eryri yn Nyffryn Nantlle sy'n sôn am gynhyrchu rym allan o weddillion eu gwartheg Wagyu.
Ac ar Sul y Blodau, Non Lewis o Eglwyswrw sy'n adrodd hanes ei chwmni, Dahlia Dwt, a sut y mae gweithio gyda blodau wedi'i helpu i ddod trwy gyfnodau tywyll yn ei bywyd.
Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru sydd â'r prisiau diweddaraf o'r marchnadoedd anifeiliaid, a sgwrs gyda Bedwyr Jones, Cadeirydd Diwrnod Ffermio'r Ucheldir Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth iddyn nhw baratoi i gynnal digwydd ar Fferm Hafod y Llan ger Beddgelert ym mis Mehefin i godi arian at Apêl Sir Nawdd Caernarfon 2025.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 13 Ebr 2025 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 13 Ebr 2025 15:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru