Cartref newydd Amgueddfa Derwen
Myfanwy Lloyd o Bennant sy'n sôn am symud Amgueddfa Amaeth Derwen i Sir Benfro. Myfanwy Lloyd from Pennant chats about moving her agricultural museum to a new home in Pembrokeshire
Myfanwy Lloyd o Fridfa Derwen ym Mhennant sy'n sôn am symud yr amgueddfa amaethyddol Derwen ar ei fferm yng Ngheredigion, i gartref newydd yn Sir Benfro, gan ddiogelu dyfodol y casgliad ar gyfer y dyfodol. Rhodri Davies fu draw yn ei holi.
Y nofelydd trosedd Alis Hawkins sy'n trafod sut y gwnaeth ei magwraeth ar fferm laeth yn Nyffryn Teifi lunio’i gyrfa. Cawn glywed am ei thaith o’r fferm i’r dudalen, a’r dylanwad Cymreig sy’n tanio’i straeon.
Hefyd, sgwrs gyda Peter Harlech Jones o Gricieth am ei rôl fel Cadeirydd newydd elusen wledig Tir Dewi.
Awel Mai Hughes sydd â'r cyngor diweddaraf ar bolisiau a chyfreithiau amaethyddol, a Gareth Thomas o Ynys Môn sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 4 Mai 2025 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 4 Mai 2025 15:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru