Main content
Diwrnod Gwenyn y Byd
I nodi Diwrnod Gwenyn y Byd, Rhodri Davies sy’n ymweld â fferm fêl yn ardal Aberystwyth. Rhodri Davies visits a honey farm in the Aberystwyth area.
I nodi Diwrnod Gwenyn y Byd, Rhodri Davies sy’n ymweld â fferm fêl Wainwrights yn Aberystwyth i glywed am yr hyn sy'n digwydd yno.
Hefyd, Meurig James o Hendy-gwyn ar Daf yn wreiddiol sy'n sôn am newydd gael ei ethol yn Gadeirydd Cymdeithas CARAS – y Gymdeithas sy’n gyfrifol am wobrau y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.
Aelodau CFFI Dyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn yn edrych ymlaen at y rali dros y penwythnos.
Y prisiau llaeth diweddaraf gyda Richard Davies, a Gareth Jones o gwmni Gwlân Prydain yn sôn am y prisiau gwlân ar gyfer ffermwyr defaid eleni.
Darllediad diwethaf
Sul 18 Mai 2025
15:30
ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
Darllediadau
- Sul 18 Mai 2025 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 18 Mai 2025 15:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru