Sioe lwyfan 'Tonguing', adolygu drama 'Huw Fyw', portread o John Ystumllyn a hanes Gwen, ferch Ellis o Landyrnog
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Carys Eleri sydd yn sgwrsio am ei sioe newydd ac unigryw o'r enw 'Tonguing'.
Mae Elinor Wyn Reynolds yn adolygu cynhyrchiad Theatr Cymru o ddrama gyntaf Tudur Owen ar gyfer y llwyfan, sef 'Huw Fyw'.
Arddangosfa 'Unearthed: The Power of Gardening' yn y Llyfrgell Brydeinig sydd yn cael sylw Dr Becca Voelcker, tra bod Sian Melganell Dafydd yn trafod drama mae hi wedi ei hysgrifennu ar gyfer cwmni 'Mewn Cymeriad' am fywyd Gwen ferch Ellis o Landyrnog, y cyntaf o bump a grogwyd am ‘witchcraft’ yng Nghymru yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ac yn ymuno yn y trafod mae'r actores Lynwen Haf Roberts sydd yn portreadu 'Gwen y Witch' yn y cynhyrchiad yma.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Sul 18 Mai 2025 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
 - Llun 19 Mai 2025 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru