Main content

Cyfrol newydd y Prifardd Jim Parc Nest, Plas Tan y Bwlch a chasgliad llyfrau yn Llansannan

Y Prifardd Jim Parc Nest sy'n trafod ei gyfrol newydd o gerddi, 'Y Caeth yn Rhydd'. Jim Parc Nest shares his new collection of poetry with Dei.

Mae cyfrol ddiweddaraf y Prifardd Jim Parc Nest, 'Y Caeth yn Rhydd', newydd gyrraedd silffoedd y siopau llyfrau, ac mae Jim yn trafod detholiad o'r cerddi gyda Dei.

Draw ym Mhlas Tan y Bwlch, mae Dr David Gwyn a Naomi Jones yn tywys Dei o amgylch y stad, a hithau'n gyfnod tyngedfennol i'r safle hanesyddol hwn.

Ac mae'r hanesydd Dr Mari Wiliam yn agor drysau ei chartref yn Llansannan wrth iddi rannu pigion o'i chasgliad helaeth o lyfrau.

22 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediadau

  • Sul 18 Mai 2025 17:00
  • Dydd Mawrth Diwethaf 18:00

Podlediad