Main content

Drama gomedi gan Mel Owen. A comedy by Mel Owen.

Drama gomedi gan Mel Owen - Comisiwn Y Cwmni (Cwmni Theatr yr Urdd) mewn cydweithrediad â Radio Cymru.

Drama ogleisiol am ferch ifanc frown o Gaerdydd sydd ddim yn ffitio ym myd Cymry Cymraeg Pontcanna, er gwaethaf holl ymdrechion ei mam. Drama am hunaniaeth, perthyn a thyfu fyny.

Fel merch frown yng Nghymru - gwlad sydd weithiau ddim yn ei deall hi - mae gan Rhiannon obeithion mawr o ddod o hyd i rywle sydd ddim yn gwneud iddi deimlo mor wahanol. Ar ei phen-blwydd yn 18, a thensiynau rhyngddi hi a'i mam yn uchel, mae Rhiannon yn dianc yn ei Thoyota Yaris i fod yn fenyw annibynnol sy'n bosio bywyd yn Birmingham. Ond ydy bywyd yn fêl i gyd neu ydy llais mam a gafael Cymru amdani yn gryfach yn y pendraw?

Rhiannon - Lily Beau
Casi - Kimberley Abodunrin
Manon - Aisha May Hunt
Arwerthwr/Dyn meddw - Jona Milone

Cyfarwyddwyd gan Ffion Emlyn a Branwen Davies
Curadwyd y gerddoriaeth gan Mirain Iwerydd
Delwedd Miri Hughes

Ar gael nawr

40 o funudau

Ar yr Awyr

Heddiw 20:00

Darllediad

  • Heddiw 20:00

Dan sylw yn...