Opera Peter Grimes gan Benjamin Britten, ennill Cadair Eisteddfod Môn a chyfrol newydd am Prosser Rhys.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen hon mae Ffion yn cael cwmni y cerddor Geraint Lewis sydd yn trafod cynhyrchiad diweddaraf Opera Cenedlaethol Cymru o opera gyntaf Benjamin Britten, ‘Peter Grimes’. Mae’r cerddor Gareth Bonnello hefyd yn ymuno yn y sgwrs i drafod y gwaith creadigol mae ef wedi bod yn ei berfformio cyn yr opera yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Ennill cadair Eisteddfod Môn Bro Seiriol oedd hanes Sian Esmor yn ddiweddar, ac mae hi yn galw heibio’r stiwdio i sgwrsio am ei cherdd a sut mae bod yn aelod o grŵp ysgrifennu creadigol ‘Diosg’ wedi rhoi hyder iddi fel bardd a llenor.
Ac yna, i gloi, mae’r bardd, y golygydd a’r cerddor gwerin Iestyn Tyne yn trafod ei albym gysyniadol gyntaf o’r enw ‘Carneddi’, a hefyd ei gyfrol newydd ar Prosser Rhys, ‘Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni’.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Cerddorfa Genedlaethol Gymeig y ÃÛÑ¿´«Ã½
Storm Interlude
-
Iestyn Tyne
Galargan Catrin
- Carneddi.
- Recordiau Cadnant.
- 10.
-
Iestyn Tyne
Yn y Mynydd
- Carneddi.
- Recordiau Cadnant.
- 2.
Darllediadau
- Dydd Sul 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Dydd Llun 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru