Main content

Dewi Llwyd yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Y Panel Chwaraeon, Elain Roberts a Dyfed Cynan sy'n trafod campau'r wythnos gan edrych mlaen at gêm gynta merched Cymru yn erbyn Yr Iseldiroedd ym mhencampwriaethau Ewro 2025 yn Y Swistir.

Yr Athro Ifan Hughes o Adran Ffiseg Prifysgol Durham syn' nodi 110 o flynyddoedd ers i sïon godi bod dau o arloeswyr y byd trydan yn gorfod rhannu’r Wobr Nobel Ffiseg, Nikola Tesla a Thomas Edison.

Ac ar Ddiwrnod Alys yng Ngwlad Hud, Marlyn Samuel sy'n rhannu ei hoffter o nofel boblogaidd Lewis Carroll, gan ein hatgoffa o'r ysbrydoliaeth roddodd tref glan môr Llandudno i'r stori.

5 o ddyddiau ar ôl i wrando

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 4 Gorff 2025 13:00

Darllediad

  • Gwen 4 Gorff 2025 13:00