Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Heriau i berfformwyr yn y byd celfyddydol

Rhaglen yn canolbwyntio ar yr heriau sy'n wynebu artistiaid ar draws sector y celfyddydau. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydan ni wedi darllen straeon yn y wasg am heriau niferus i sectorau amrywiol ym maes y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r rhesymau tu ôl i'r heriau yma'n niferus, a does dim dwywaith fod blynyddoedd o newid wedi trawsnewid tirlun y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r rhaglen yma yn canolbwyntio ar effaith hyn oll ar yr unigolion hynny sydd wedi dewis dilyn gyrfa fel perfformwyr.

Yn ymuno felly i drafod ymhellach gyda Ffion mae'r gantores opera Leah Marian Jones, y cerddor clasurol Llinos Elin Owen, y comedïwr Steffan Alun a'r actorion Cath Ayres, Llion Williams a Gwion Morris Jones.

56 o funudau

Darllediadau

  • Sul 6 Gorff 2025 13:00
  • Llun 7 Gorff 2025 18:00