Main content

Pantri Blakeman yng Nghaerfyrddin yn 25!

Moyra a Carol Blakeman sy'n dathlu 25 mlynedd o redeg Pantri Blakeman yng Nghaerfyrddin. Moyra and Carol Blakeman celebrate 25 years running Pantri Blakeman cafe in Carmarthen.

Moyra a Carol Blakeman sy'n dathlu 25 mlynedd o redeg Pantri Blakeman yng Nghaerfyrddin. Megan Williams sy'n ymweld â'r caffi i sgwrsio â'r ddwy a rhai o'u cwsmeriaid.

Hefyd, Terwyn Davies sy'n sgwrsio gyda'r cyflwynydd Mari Grug am daith dractor go arbennig yn ardal Crymych yn ddiweddar.

Sgwrs hefyd gydag Aron Dafydd o Fferm Gwarffynnon ger Llanbedr-Pont-Steffan, ffermwr godro sy'n cynhyrchu caws Halŵmi Cymru, cynnyrch enillodd un o brif wobrau Sioe Frenhinol Cymru 2025.

Awel Mai Huws sydd â'r newyddion diweddaraf o fyd y polisïau a'r cyfreithiau amaethyddol, a'r darlithydd amaethyddiaeth Fflur Roberts o Langadfan sy'n adolygu'r wasg.

3 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 24 Awst 2025 15:30

Darllediadau

  • Sul 24 Awst 2025 07:00
  • Sul 24 Awst 2025 15:30