Main content

Dechrau'r Rhyfel

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Archive programme from 2004 remembering the Second World War.

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'.

Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Yn y bennod hon mae Cenhedlaeth y Rhyfel yn cofio dechrau'r rhyfel a’r newidiadau a ddaeth yn ei sgil.

1 mis ar ôl i wrando

30 o funudau

Ar y Radio

Dydd Sul Nesaf 19:30

Darllediadau

  • Gwen 29 Awst 2025 02:00
  • Gwen 26 Medi 2025 02:00
  • Gwen 24 Hyd 2025 02:00
  • Dydd Sul Nesaf 19:30