Bomio Abertawe a Chaerdydd
Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Archive programme from 2004 remembering the Second World War.
Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'.
Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll.
Yn y bennod hon mae Cenhedlaeth y Rhyfel yn cofio effaith y bomio ar ddinasoedd Abertawe a Chaerdydd, yn ogystal â phrofiadau milwyr ar faes y gad ac mewn carchar rhyfel.
Ar y Radio
Darllediadau
- Gwen 29 Awst 2025 03:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Gwen 26 Medi 2025 03:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru