Main content

Carchar Stalag 4B

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'. Archive programme from 2004 remembering the Second World War.

Ailddarllediad o 2004, lle mae Dewi Llwyd yn edrych yn ôl ar gyfnod cythryblus yr Ail Ryfel Byd, yng nghwmni hanner cant o ‘Cenhedlaeth y Rhyfel'.

Yn filwyr a morwyr, yn weithwyr fferm a gwrthwynebwyr cydwybodol, yn faciwîs a phlant ysgol – mae nhw’n hel atgofion am flynyddoedd oedd yn dyngedfennol yn eu hanes. Yng nghanol y brwydro a'r colledion mae yna sôn annisgwyl hefyd am fwynhau ac am frawdgarwch mewn dyddiau tywyll.

Mae'r bennod hon yn ymdrin â bywyd yng Ngharchar Stalag 4B yn yr Almaen, yn clywed am brofiadau milwyr yng Ngogledd Affrica a'r Eidal, a'r ymateb wrth i'r Americanwyr gyrraedd Cymru.

1 mis ar ôl i wrando

30 o funudau

Ar y Radio

Sad 27 Medi 2025 02:30

Darllediadau

  • Sad 30 Awst 2025 02:30
  • Sad 27 Medi 2025 02:30