Main content

Cyfrol o erthyglau Richard Tudor Llysun

Cath Tudor sy'n sgwrsio am gyfrol newydd sbon sy'n cynnwys erthyglau amaethyddol ei brawd. Cath Tudor chats about a new book featuring her late brother's agricultural articles.

Cath Tudor sy'n sgwrsio am gyfrol newydd sbon sy'n cynnwys erthyglau amaethyddol ei diweddar frawd, Richard Tudor, Fferm Llysun, Llanerfyl fu farw yn 2020.

Hefyd, gyda Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CFFI Cymru yn cael ei gynnal y penwythnos nesaf, sgwrs gyda Chadeirydd y mudiad, Dewi Davies, ac Is-Gadeirydd y mudiad, Angharad Thomas.

Yr athrawes a'r ffermwraig o Langolman, Sir Benfro, Betsan Williiams sy'n sôn am dderbyn Gwobr Goffa Idris Davies yn Sioe Sir Benfro yn ddiweddar.

Richard Davies â'r newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth, a'r ffermwr godro o Ffostrasol, Ceredigion, Gethin Hughes sy'n adolygu'r straeon gwledig yn y wasg.

23 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Sul Diwethaf 15:30

Darllediadau

  • Dydd Sul Diwethaf 07:00
  • Dydd Sul Diwethaf 15:30